Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Mercher, 5 Gorffennaf 2017
Amser: 09.30 -
11.36
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV
yn:
http://senedd.tv/cy/4158
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Dai Lloyd AC (Cadeirydd) Dawn Bowden AC Jayne Bryant AC Angela Burns AC Rhun ap Iorwerth AC Caroline Jones AC Julie Morgan AC Lynne Neagle AC |
Tystion: |
|
Staff y Pwyllgor: |
Sian Thomas (Clerc) Sarah Sargent (Dirprwy Glerc) Mathilde Guillaumin (Ymchwilydd) Stephen Boyce (Ymchwilydd) Sarah Hatherley (Ymchwilydd) Martin Jennings (Ymchwilydd) Philippa Watkins (Ymchwilydd) |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.
2.1 Adolygodd y Pwyllgor y gwaith y mae eisoes wedi’i wneud a thrafododd y blaenoriaethau strategol a bennwyd ganddo yn ystod tymor yr hydref 2016.
3.1 Cytunodd y Pwyllgor i gynnal ymchwiliad i weithgarwch corfforol a phlentyndod. Bydd y cylch gwaith yn cael ei gwblhau yn y cyfarfod ar 19 Gorffennaf, a bydd ymgynghoriad cyhoeddus yn dilyn hynny.
3.2 Dechreuodd y Pwyllgor drafod ei gynlluniau ar gyfer craffu ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2018-19.
4.1 Dechreuodd y Pwyllgor drafod ei gynlluniau ar gyfer ymchwiliadau’r dyfodol a chytunodd i gwblhau’r cynigion yn ei gyfarfod ar 19 Gorffennaf.
4.2 Cytunodd y Pwyllgor ganslo’i gyfarfod ar 13 Gorffennaf a gohirio’r trafodaethau ar ei adroddiad drafft am ofal sylfaenol tan fis Medi.